Croeso cynnes i wefan Ysgol Gynradd Aberaeron.
Yn Ysgol Gynradd Aberaeron, rydym yn ymfalchïo mewn meithrin amgylchedd dysgu cynhwysol, diogel a chroesawgar lle mae pob plentyn yn cael y cyfle i dyfu, datblygu a llwyddo. Ein nod yw meithrin cariad at ddysgu, hyder i archwilio syniadau newydd, a pharch tuag at ein gilydd a’n cymuned.
Rydym yn ysgol sy’n gwerthfawrogi ein gwreiddiau Cymreig, ac yn falch o gynnig addysg ddwyieithog sy’n paratoi ein disgyblion ar gyfer byd eang sy’n newid yn gyflym. Mae ein staff ymroddedig yn gweithio’n agos gyda rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo’n werthfawrol ac yn cael ei gefnogi i gyrraedd ei botensial.
Credwn yn gryf bod lles emosiynol yn hanfodol i bob unigolyn — boed yn blentyn neu’n oedolyn — er mwyn gallu ymgysylltu’n llawn â dysgu. Rhoddir gryn bwyslais ar les staff a disgyblion, gan greu diwylliant o ofal, cefnogaeth a chydweithio.
Mae cymuned yr ysgol yn greiddiol i bopeth a wnawn. Rydym yn gweithio’n agos gyda thref Aberaeron a’r ardal ehangach i sicrhau bod dolen gref rhyngom ni, gan feithrin ymdeimlad o berthyn, cyfrifoldeb a balchder lleol. Mae’r cysylltiadau hyn yn cyfoethogi profiadau ein disgyblion ac yn cryfhau ein hunaniaeth fel ysgol.
Rydym yn hoffi torri tir newydd ac yn chwilio’n barhaus am y dulliau mwyaf arloesol ac addas i ddarparu’r profiadau gorau posibl i’n disgyblion. Mae creadigrwydd, hyblygrwydd ac uchelgais yn rhan annatod o’n dull o addysgu.
Diolch am ymweld â’n gwefan. Gobeithio y cewch gipolwg ar fywyd bywiog ein hysgol, a’r cyfleoedd cyffrous sydd ar gael i’n disgyblion.
Gyda chofion cynnes,
Mrs Anwen Lloyd-Hughes
Pennaeth
Ein Gweledigaeth
Calon ein Cymuned
Rhydd i Bawn ei Farn
Gweithio’n Galed, Chwarae’n Galed
Cymry Balch a Mentrus
Ma ‘na le i bawb yn ein hysgol ni
“Mae’n hwyl i ddysgu yn y Dosbarth” – Henry
“Mae’r athrawon yn hwyl ac yn garedig” – Zoe
“Mae plant ac athrawon yr ysgol yn neis iawn” – Talia
“Mae’n gret cael cymryd rhan mewn llawer o bethau gwahanol” – Emmi
“Mae llawer o le tu fas i gael sbort!” – Bleddyn
“Mae’r staff bob tro yn barod i helpu” – Matthew
Crynodeb o’r Cwricwlwm
Mae ein cwricwlwm wedi’i gyd-lunio drwy ymgysylltu â’r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni’r gofynion yn yr dogfen isod
Crynodeb o’r Cwricwlwm
Y 4 Diben
Cyfranwyr mentrus, creadigol

Dinasyddion egwyddorol, gwybodus

Unigolion iach, hyderus

Dysgwr uchelgeisiol, galluog

Canran presenoldeb wythnosol dosbarthiadau
22/09/2025-26/09/2025
%
Meithrin
%
Derbyn
%
Blwyddyn 1
%
Blwyddyn 2
%
Blwyddyn 3
%
Blwyddyn 4
%
Blwyddyn 5
%
Blwyddyn 6
Dolenni
X