Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

Page 6

  • Apêl Pabi / Poppy Appeal

    Published 25/11/20

    Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at yr apêl eleni. Llwyddodd yr ysgol i godi £144.30 tuag at yr apêl. 

    Read More
  • Plant Mewn Angen / Childen In Need

    Published 16/11/20

    Eleni daeth pawb i’r ysgol mewn pyjamas a chael gwallt gwyllt. Llwyddwyd i godi £400.00  i’r apêl. Diolch i bawb a gyfrannodd.

    Read More
  • Arad Goch

    Published 25/02/20

    Cafodd bl. 5 a 6 y cyfle i weld perfformaid newydd gan Arad Goch sef ‘Tu Fewn a Tu Fas’. Ar ôl y perfformiad cynhaliwyd gweithdai i’r plant yn seiliedig ar beth welwyd.

     

    Read More
  • Cogurdd

    Published 25/02/20

    Eleni aeth 12 o ddisgyblion ati i greu Cibab ffrwythau yn rownd yr ysgol o Cogurdd. Llongyfarchiadau i Ela  Mablen ar ddod yn fuddugol ac i Maisie Tuson a Ella Phillips am ddod yn gydradd ail. Diolch i chi gyd am gystadlu a gwneud ymdrech arbennig.

    Llwyddod Ela i ddod yn drydydd yn rownd derfynol y Sir.

     

    Read More
  • Wythnos Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Ddiogel / Safer Internet Use Week

    Published 25/02/20

    Cafodd y Dewiniaid Digidol wythnos brysur yn addysgu eu cyd-ddisgyblion. Cynhaliwyd gwasanaeth i holl ddisgyblion yr ysgol. Aeth y Dewiniaid Digidol o gwmpas y dosbarthiadau yn rhoi gwersi ar

    Derbyn—defnyddio y bee-bots newydd yn y dosbarth

    Blwyddyn 1—creu logo e-ddiogelwch newydd ar JIT

    Blwyddyn 2—Codio e-ddiogelwch

    Blwyddyn 3 a 4—Microbits                  

    Cafodd blwyddyn 5 a 6 wersi ar seibr fwlio, pwysigrwydd o greu cyfrineiriau cryf ac hefyd e-byst sbam.

    Gorffenwyd yr wythnos drwy ymweld â chartref preswyl Min y Môr i ddarparu sesiwn TGCh

     

    Read More
  • Elin o Cyw / Elin from Cyw

    Published 25/02/20

    Fel rhan o thema’r dosbarth meithrin a derbyn, cafwyd ymweliad cyffrous iawn gan Elin, un o gyflwynwyr Cyw. Treuliodd Elin y bore yn canu a dawnsio gyda’r plant i nifer o ganeuon Cyw. Cafwyd hefyd sesiwn stori ac bu’r plant yn mwynhau gofyn cwestiynau iddi.  Aeth Elin nôl gyda llond car o luniau lliwgar.

     

    Read More
  • Disgo Santes Dwynwen / Santes Dwynwen Disco

    Published 25/02/20

    Trefnwyd ddisgo Santes Dwynwen i’r ysgol gyfan gan aelodau’r  Cyngor Ysgol a Siarter Iaith er budd gwaith yr Urdd yng Nghylch Aeron. Gwerthwyd cacennau, bisgedi a ffrwythau yn y disgo ac bu pawb yn danwsio i gerddoriaeth Cymraeg. Hefyd crewyd cardiau Santes Dwynwen gan aelodau’r cynghorau i werthu.

    Diolch i bawb a gyfranodd tuag at y diwrnod.

     

    Read More
  • Cynhadledd Lles / Wellbeing Conference

    Published 25/02/20

    Llongyfarchiadau i Celt a Trystan am gyflwyniad arbennig i benaethiaid y Sir ar ein defnydd o Yoga a 'Speakr' yn yr ysgol i hyrwyddo lles ein disgyblion. Trefnwyd gan Ysgolion Iach y Sir

    Read More
  • Ffair Nadolig yr Ysgol / School Christmas Fair

    Published 17/12/19

    Bu pob disgybl yn brysur iawn yn paratoi nwyddau i werthu ar y noson. Agorwyd y ffair drwy ganu carolau o  gwmpas y goeden. Bu’r stondinau yn brysur dros ben yn gwerthu eu nwyddau ac roedd bwrlwm mawr yng ngroto Siôn Corn. Diolch i bawb a fu’n cynorthwyo ar y noson ac i chi fel rhieni am eich cefnogaeth.

     

    Read More
  • Ymweliad yr Archdderwydd / Archdruid Visit

    Published 17/12/19

    Cafodd Bl. 5 a 6 ymweliad anisgwyl gan Myrddin ap Dafydd, Archdderwydd Cymru. Bu’n sgwrsio gyda’r plant am ei ddyletswyddau fel Archdderwydd ac yn trafod arwyddocâd yr Orsedd. Aethpwyd ymlaen i gyfansoddi cerdd gyda’I gilydd.   Cyn diwedd y bore cafwyd cyfle i ofyn cwestiynnau iddo. Mae pawb bellach yn edrych ymlaen yn eiddgar i ymweliad yr Eisteddfod a Cheredigion ym mis Awst.

     

    Read More
  • Cwrdd Diolchgarwch /Harvest Festival

    Published 07/11/19

    Eleni cynhaliwyd ein Cwrdd Diolchgarwch yn yr ysgol. Casglwyd tuag at ‘Banciau Bwyd’ Ceredigion. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

    Read More
  • Gweithdy Beicio / Biking Workshop

    Published 07/11/19

    Diolch yn fawr iawn i Mr. a Mrs. Tarling o glwb ‘West Wales Cycling’ am ddod i’r ysgol i gynnal gweithdy beicio gyda disgyblion blynyddoedd 3 a 4.

    Diolch hefyd i Joshua Tarling cyn ddisgybl o’r ysgol am ddod i siarad gyda’r plant am eu lwyddiant yn y byd beicio.

    Read More