Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

Page 8

  • Plant Mewn Angen / Children In Need

    Published 16/11/18

    Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at yr apel. Llwyddwyd i godi £314.02 tuag at yr apel.

    Read More
  • Bore coffi Macmillan / Macmillan coffee morning

    Published 28/09/18

    Ar ran cyngor yr ysgol hoffwn i ddweud diolch am ddod i'r bore coffi. Rydym yn gwerthfawrogi llawer ac rydym wedi codi £820.49 i Macmillan. Diolch am yr help!! Farhan a Jasmine

    Read More
  • Ymweliad Bl. 1 a 2 / Year 1 & 2 Visit

    Published 05/07/18

    Buodd bl.1 a 2 yn amgueddfa plentyndod ac yn Teifimania ar ei ymweliad haf. Cawson amser diddorol yn edrych ar degannau ar drws y degawdau a profi sut bod mewn Ysgol yn yr hen dyddiau. Cafwyd hwyl yn Teifimanio yn dringo, neidio a chymdeithasu.

     

    Read More
  • Ymweliad yr R.N.L.I / R.N.L.I Visit

    Published 14/06/18

    Diolch i'r R.N.L.I am ddod i siarad gyda ni am ddiogelwch a'r y traeth

    Read More
  • Prosiect Ohio / Ohio Project

    Published 14/06/18

    Cafodd plant blwyddyn 3 modd i fyw yn ystod eu hymweliada'r amgueddfa yn Aberystwyth ar ddydd Iau y 20fed o Fai. Cafwyd gyflwyniad hwyliog dros ben i'r prosiect Cymru Ohio. Dysgoit am fywyd cyn yr ymfudiad a chawsant eu hysbrydoli i greu rhan o ddarn Celf Panorama godidog gyda Philip Huckin. Fe fydd arddangosfa yn cael ei chynnal ar Fehefin y 25ain yn neuadd Llangeitho.

    Read More
  • Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed

    Published 14/06/18

    Cafodd Ela Mablen eisteddfod a hanner yn Eisteddfod Cenedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed.Cyrhaeddodd Ela y llwyfan mawr mewn pump cytadleuaeth! Fe gafodd dwy fedal aur am ganu cerdd dant a llefaru i flynyddoedd 3 a 4, y fedal arian am ganu unawd I flynyddoedd 3 a 4 ac yna dwy fedal efydd un am y gystadleuaeth canu gwerin i flynyddoedd 6 ac iau  a’r llall am ganu deuawd gydag Eos Dafydd. Da iawn Ela a da iawn Eos!

     

    Read More
  • Gwyl Chwaraeon yr Urdd / Urdd Sport Festival

    Published 16/05/18

    Ar ddydd Sadwrn 12fed o Fai bu tîm pêl droed yr ysgol yn cystadlu ym mhencampwriaeth Cymru. Roedd y gobeithion yn uchel ar ôl ennill llynedd. Yn ei grŵp cafwyd gêm cyfartal yn erbyn Llanfair Caerinion ac yna curo Ysgol Bro Allta ag Ysgol Gwauncelyn i ennill y grŵp. Curwyd St Peters yn y chwarteri ac yn Bryncoch yn y rownd gyn-derfynol. Ymlaen i’r rownd derfynol unwaith eto yn erbyn Gwauncelyn. Ar ddiwedd y gêm roedd y sgôr yn gyfartal ac felly roedd yn rhaid mynd i amser euraidd ac er mawr siom, colli fu’r hanes. Llongyfarchiadau mawr i’r bechgyn am ddod yn ail yng Nghymru—Gwych.

    Aelodau’r tîm :- Steffan (capten), Wil, Finlay,     Ethan, Zeké, Rhys, Rhodri, Jack, Krzysztof a Dion.

     

    Ar yr un diwrnod bu 30 o blant yr ysgol yn rhedeg yng nghystadleuaeth trawsgwlad Cymru a gwnaeth pawb eu gorau glas  a perfformio’n wych. Y medalwyr oedd Martha 1af merched bl.5, Seren 3ydd merched bl.6 a Ellis 3ydd bechgyn bl.3.

    Da iawn pawb a fu’n cynorthwyo’r ysgol.

     

    Read More
  • Penwythnos Llangrannog / Llangrannog Weekend

    Published 25/04/18

    Aeth 11 o blant am benwythnos i Wersyll yr Urdd Llangrannog. Mwynhaeodd pawb yn fawr iawn

    Read More
  • Sesiwn Blasu Criced / Cricket Taster Session

    Published 25/04/18

    Diolch i Criced Cymru am ddod i'r ysgol i roi sesiwn blasu criced i flynyddoedd 1, 2 a 3.

    Read More
  • Bl. 1 a 2 yn trefnu blodau / Yr 1 and 2 arranging flowers

    Published 25/04/18

    Diolch i Donald o Blodau'r Bedol am ddysgu ni sut i drefnu blodau. Rhanwyd y gosodiadau rhwng cartrefi Min y Mor, Penrodyn a Mrs Thomas

    Read More
  • Trawsgwlad yr Urdd / Urdd Crosscountry

    Published 25/04/18

    Aeth 31 o blant i gynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth trawsgwlad Ceredigion yr Urdd. Rhedodd pawb fel y gwynt! Y plant ddaeth yn y 10 cntaf oedd.

    Bechgyn Blwyddyn 6 - Finl;ay 1af, Steffan 5ed, Ethan 7fed a Rhys 8fed.

    Merched Blwyddyn 6 - Seren 2il

    Merched Blwyddyn 5 - Martha 1af

    Bechgyn Blwyddyn 3 - Ellis 2il

    Merched Blwyddyn 3 - Mia 9fed. 

    Read More
  • Pel droed 7 bob ochr / 7 a side football

    Published 25/04/18

    Llongyfarchiadau enfawr i fechgyn yr ysgol a lwyddod i ennill cystadleuaeth pel droed 7 bob ochr yr Urdd yn Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr hefyd i'r merched a lwyddodd i ddod yn ail yn y gystadleuaeth.

    Read More