Skip to content ↓

Ysgol Gynradd

Aberaeron

Yn yr adran hon...

Newyddion/ News

Newyddion/ News

Page 9

  • Eisteddfod Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase Eisteddfod

    Published 25/04/18

    Trannoeth tro y Cyfnod Sylfaen, ac eto cafwyd   diwrnod llawn o gystadlu yn y Neuadd. Enillwyd y tlws Llên gan  Sadie Gibbs a’r tlws Celf gan  Patryk  Chrostowski.

    Beirniadwyd gan Enid Jones a Carys Roberts.

     

    Read More
  • Eisteddfod Cyfnod Allwedddol 2 / Key Stage 2 Eisteddfod

    Published 25/04/18

    Yn ystod wythnos ola’r tymor cynhaliwyd Eisteddfodau’r Ysgol. Cipiwyd y prif dlysau yn Eisteddfod C.A.2 gan y canlynol, Celf– Tanwen Shaw, Y Goron—Mari Raw-Rees a’r Gadair– Catrin Edwards. Cafwyd cystadlu brwd a diolch yn fawr I’r ddau feirniad, sef Iestyn Morgan a Siôn Evans am eu gwaith caled. Ar ddiwedd y dydd Pentwr oedd y tim     buddugol.

     

    Read More
  • Adar Ysglafaethus Cei Newydd / New Quay Birds of Prey

    Published 25/04/18

    Diolch i Gary a Liz am ddod a pedair tylluan i     ddangos i ni. Roedd e’n diddorol iawn i weld ac i glywed am y gwahanol dylluanod. Mwynhaeodd y plant a’r athrawon yn fawr.

     

    Read More
  • Gwyl Chwaraeon Cylch Aeron / Aeron Cluster Sports Festival

    Published 25/04/18

    Aeth disgyblion blwyddyn 3 a 4 i Ysgol Bro Siôn Cwilt i ddathlu Gemau’r Gymanwlad a ‘Sport Relief’ yng Ngwyl Chwaraeon Cylch Aeron a oedd wedi ei threfnu gan Ceredigion Actif. Cafwyd gyfle i brofi amrywiaeth o wahanol chwaraeon ac yna cerdded 1 milltir i godi arian i ‘Sport Relief’.

     

    Read More
  • Plant Derbyn Plannu Coed gyda Rotari / Reception class planting trees with the Rotari

    Published 25/04/18

    Daeth Rotari Aberaeron i'r ysgol i blannu coed gyda holl ddisgyblion y dosbarth Derbyn.

    Read More
  • Trawsgwlad Abertawe / Swansea Crosscountry

    Published 25/04/18

    Llongyfarchiadau i Finlay, Seren, Steffan a Martha a aeth i gynrychioli Dyfed yn erbyn Morganwg yn Abertawe. Daeth Finlay Tarling yn 3ydd, Seren Davies yn 10fed, Steffan Hopkins yn 14fed a Martha Brandy-Phillips yn 15fed.

     

    Read More
  • Trawsgwlad Dyfed / Dyfed Crosscountry

    Published 25/04/18

     PENCAMPWYR TRAWSGWLAD DYFED

     Aeth dros 60 o blant i gynrychioli’r ysgol. Llwyddwyd i ddod yn ail ysgol orau dros Ddyfed — camp wych o ystyried fod 90 o ysgolion a dros 1,400 o blant yn cystadlu!

    Medalwyr unigol: Martha: 1af, Seren: 6ed, Finlay: 2il

    Medalwyr tîm : Bechgyn Bl.3—Ellis, Sonny, Jack  P.—3ydd

    Merched Bl.5—Martha, Chloe, Jasmine W —2il

    Merched Bl.6—Seren, Mari, Bethany—2il

    Bechgyn Bl.6—Finlay, Zeké, Steffan—1af

    Aeth Martha, Steffan, Finlay a Seren ymlaen i gynrychioli Dyfed yn erbyn Morgannwg pryd yr enillodd Finlay y 3ydd wobr! Llongyfarchiadau i chi gyd.

     

     

    Read More
  • Trawsgwlad cylch / Aeron Cluster Crosscountry

    Published 25/04/18

    TRAWSGWLAD CYLCH AERON

    Cynhaliwyd trawsgwlad cylch aeron a’r safle’r Ysgol unawith eto.      Enillodd yr Ysgol 6 ras allan o 10.

    Bydd 28 o blant yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Ysgol yn rownd y Sir. Pob lwc i bawb.

    Y buddugwyr oedd Rhianna, Sonny, Iolo, Kaitlyn, Krzysztof a Mari.

     

    Read More
  • Eisteddfod Rhanbarth Ceredigion / Ceredigion Area Eisteddfod

    Published 25/04/18

    Llongyfarchiadau i’r canlynol ar lwyddiant arbennig yn yr Eisteddfod ym Mhontrhydfendigaid:

     2il Llefaru i Ddysgwyr Bl.2 ac iau—Antoni Raczynski  

    1af Unawd Cerdd Dant Bl. 3 a 4—Ela Mablen Griffiths-Jones

    1af    Unawd Bl3 a 4-Ela—Mablen Griffiths Jones                    

      1af    Llefaru Bl3 a 4—Ela Mablen Griffiths Jones                      

    1af    Unawd Alaw Werin Bl6 ac iau - Ela Mablen Griffith-Jones

    1af  Deuawd Bl.6 ac iau—Eos Dafydd a Ela Mablen Griffiths-Jones

     2ail    Parti Deulais;  1af Ymgom;  3ydd Côr.                            

       Pob lwc i Ela yn y pump Cystadleuaeth, i Eos ac  i’r Ymgom yn Llanfair ym Muallt ym mis Mai.

     

    Read More
  • Trawsgwlad Ysgol / School Crosscountry

    Published 25/04/18

    Llongyfarchaidau i bawb a redodd yn rasys trawsgwlad yr Ysgol. Llongyfarchiadau i entwr a oedd yn fuddugol ar ddiwedd y dydd.

    Read More
  • Gweithdy Gwyddoniaeth / Science Workshop

    Published 25/04/18

    I ddathlu Wythnos Gwyddoniaeth aeth blynyddoedd 5 a 6 i Brifysgol Aberystwyth. Cafwyd bor hwylus yn ymweld ag amryw o stondinau a cael y cyfle i arbrofi.

    Read More
  • Cogurdd

    Published 25/04/18

    Llongyfarchiadau i Jasmine Williams am fod yn llwyddiannus yn rownd yr ysgol ac am gyrraedd rownd derfynol y Sir.

    Read More