Gwybodaeth
Croeso
Coreso i we-fan Ysgol Gynradd Aberaeron.
Lleolir yr ysgol gynradd gymunedol hon o fewn tref Aberaeron. Adeiladwyd yr ysgol ar safle deheuol i’r dref, tua 200 metr o’r traeth, ac mae’n mwynhau golygfeydd o Fae Ceredigion.
Mae’n cynnwys pedair ystafell ddosbarth, neuadd ganolig / ystafell fwyta, cegin, dau ddosbarth symudol, uned feithrin/derbyn pwrpasol o fewn drysau clo, Canolfan cyfoethogi cerddoriaeth ac iaith a’r Atriwm, gofod cyfunol i’r Cyfnod Sylfaen. Tu allan mae cae chwarae eang a thir chwarae caled a lle chwarae amgaeedig i’r disgyblion meithrin a derbyn.
Derbynnir plant Cymraeg a Saesneg eu hiaith, ac nid yw’n angenrheidiol iddynt fod a gwybodaeth o’r ail iaith.
Medrir gwneud cais am le drwy apwyntiad yn yr ysgol neu ar lein drwy we fan Cyngor Sir Ceredigion.
https://forms.ceredigion.gov.uk/ufs/ADMISSIONS.eb?COUNTY_ID=667&ebd=0&ebz=1_1498136892079